{"id":17,"date":"2021-02-24T13:09:29","date_gmt":"2021-02-24T13:09:29","guid":{"rendered":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/?page_id=17"},"modified":"2021-06-03T13:06:47","modified_gmt":"2021-06-03T12:06:47","slug":"y-prosiect","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/y-prosiect\/","title":{"rendered":"Y Prosiect"},"content":{"rendered":"<h1 style=\"text-align: center\">Ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), fel rhan o ymateb cyflym Ymchwil ac Arloesi yn y DU i COVID-19<\/h1>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>Cyflwyniad i&#8217;r Prosiect<\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Ledled y Deyrnas Unedig mae\u2019r pandemig COVID-19 wedi gweddnewid tirwedd &#8216;gweithredu gwirfoddol&#8217;. Mae&#8217;r prosiect hwn yn adolygu, yn dadansoddi ac yn gwerthuso&#8217;r ymatebion gwirfoddol i\u2019r argyfwng a gefnogwyd gan y wladwriaeth ac a gefnogwyd gan ffynonellau heblaw\u2019r wladwriaeth. Mae\u2019n rhaid deall sut mae gweithredu gwirfoddol yn ymateb i anghenion oedd yn bodoli eisoes ac i anghenion sydd wedi dod i&#8217;r amlwg yn ystod yr argyfwng. Bydd y canfyddiadau&#8217;n helpu i lywio ymdrechion gwirfoddolwyr yn y Deyrnas Unedig i gefnogi adferiad y gwledydd a&#8217;u parodrwydd ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol. Bydd yr astudiaeth hon yn caniat\u00e1u gwell dealltwriaeth o&#8217;r hyn a weithiodd yn dda a&#8217;r hyn a fu\u2019n llai llwyddiannus, ac a yw&#8217;r gwersi sydd wedi\u2019u dysgu yn drosglwyddadwy ac o dan ba amodau\/amgylchiadau.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>Cwestiynau a methodoleg yr ymchwil<\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Dyma\u2019r cwestiynau ymchwil allweddol:<\/p>\n<ol style=\"text-align: justify\">\n<li>Ym mha ffyrdd mae&#8217;r fframweithiau polisi ar gyfer gweithredu gwirfoddol a fabwysiadwyd gan y pedair gwlad mewn ymateb i COVID-19 yn wahanol? A pha mor effeithiol ydyn nhw?<\/li>\n<li>Pwy sydd wedi ymateb i&#8217;r alwad i wirfoddoli yn ystod y pandemig COVID-19? Ydy proffil gwirfoddolwyr wedi newid (rhyngblethedd)? Sut gallwn ni gynnal cyfranogiad gwirfoddolwyr newydd y tu hwnt i&#8217;r pandemig?<\/li>\n<li>Oes enghreifftiau o arferion da ar gyfer gweithredu gwirfoddol i gefnogi cymunedau ac unigolion ar adegau argyfyngus? Ym mha ffyrdd y gellir rhannu arferion da? Ac ydyn nhw\u2019n drosglwyddadwy ar draws yr awdurdodaethau?<\/li>\n<\/ol>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>Dulliau cymysg<\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Ymagwedd dulliau cymysg sy\u2019n cael ei defnyddio i ganolbwyntio ar yr ymatebion polisi a&#8217;r ymatebion sefydliadol i gydlynu a rheoli gwirfoddolwyr yn ystod y pandemig. Mae&#8217;r prosiect yn cynnwys pedwar gweithgaredd casglu data allweddol, sef 1) dadansoddi dogfennau polisi, 2) cyfweliadau, 3) dadansoddi data o apiau rheoli gwirfoddolwyr 4) galwad ledled y Deyrnas Unedig am dystiolaeth.<\/p>\n<ol style=\"text-align: justify\">\n<li><strong>Dadansoddi dogfennau polisi<\/strong>: Mae&#8217;r t\u00eem wrthi yn nodi ac yn casglu dogfennau polisi perthnasol (2016-2021) ynghylch cynllunio ar gyfer pandemig o ddadleuon seneddol, pwyllgorau craffu etc ym mhob awdurdodaeth; ynghyd \u00e2 datganiadau perthnasol i&#8217;r wasg, tudalennau gwe mudiadau gwirfoddol, asiantaethau&#8217;r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill yn sgil gwaith cynllunio pandemig blaenorol.\u00a0Caiff y dogfennau hyn eu dadansoddi drwy ddefnyddio dadansoddiad disgwrs er mwyn dod o hyd i bwyntiau gwahanol a thebyg ar draws gwahanol gyd-destunau polisi.<\/li>\n<li><strong>Cyfweliadau:\u00a0<\/strong>Bydd ein t\u00eem yn cyf-weld \u00e2 phartneriaid allweddol o&#8217;r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn myfyrio ar y cyd-destun polisi ym mhob awdurdodaeth. Bydd data o&#8217;r cyfweliadau yn ategu&#8217;r dadansoddiad polisi er mwyn canfod pa mor effeithiol oedd fframweithiau polisi gweithredu gwirfoddol.<\/li>\n<li><strong>Dadansoddi data o apiau rheoli gwirfoddolwyr:<\/strong>\u00a0mae ein t\u00eem ni wrthi\u2019n gweithio mewn partneriaeth \u00e2 nifer o weithredwyr llwyfannau digidol ar gyfer gwirfoddolwyr (gan gynnwys Team Kinetic a BeCollective) er mwyn codi data demograffig a data lleoli dienw. Caiff y data hwn ei ddefnyddio i fyfyrio ar y newidiadau yn natur gwirfoddoli a&#8217;r newidiadau yn y garfan gwirfoddolwyr yn ystod y pandemig.<\/li>\n<li><strong>Galwad ledled y Deyrnas Unedig am dystiolaeth<\/strong>: Bydd galwad ledled y Deyrnas Unedig am dystiolaeth yn cael ei lansio er mwyn mapio tirwedd newidiol gweithredu gwirfoddol yn ystod y pandemig. Bydd yr alwad am dystiolaeth yn cael ei hwyluso drwy gyfrwng arolwg ar-lein. Bydd yr arolwg yn gofyn i\u2019r ymatebwyr fyfyrio nid yn unig ar y cynnydd mewn mathau penodol o weithredu gwirfoddol, ond hefyd roi sylwadau ar y prosiectau\/sefydliadau sydd wedi cau neu wedi\u2019u hatal dros dro o ganlyniad i&#8217;r pandemig.<\/li>\n<\/ol>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>Fframwaith Cysyniadol Cyffredin<\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Cafodd cynnig y prosiect ei gyd-gynllunio gan d\u00eem craidd y prosiect. Er mwyn sicrhau bod y t\u00eem yn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gysyniadau allweddol, cafodd fframwaith dadansoddol cyffredin ei ddatblygu. Mae&#8217;r model Theori Newid yn dechneg werthuso sylfaenol sy&#8217;n seiliedig ar theori a ddatblygwyd ar y cyd ar ddechrau&#8217;r prosiect, gyda mewnbwn gan holl aelodau&#8217;r t\u00eem a phanel cynghori&#8217;r prosiect. Bydd Theori Newid yn gyfrwng i yrru&#8217;r prosiect yn ei flaen a chaiff ei adolygu a&#8217;i ddiwygio&#8217;n rheolaidd wrth i&#8217;r prosiect ddatblygu. I ddarllen mwy am y dull, darllenwch y\u00a0<a href=\"https:\/\/www.mvain4.uk\/resource-details\/obstacles-and-opportunities-facing-charity-leaders-during-covid-19-3\/\"><strong>papur gwaith cyntaf.\u00a0<\/strong><\/a><\/p>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>T\u00eem y Prosiect <\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Mae&#8217;r ymchwil yn cael ei gwneud gan d\u00eem o academyddion ledled y Deyrnas Unedig a&#8217;r pedwar corff seilwaith allweddol ar gyfer y sector yn y pedair gwlad.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>Mae\u2019n t\u00eem craidd yn cynnwys:\u00a0<\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Irene Hardill (Prifysgol Northumbria), Jurgen Grotz (UEA), Nick Acheson (ymgynghorydd ac academydd wedi ymddeol, Coleg y Drindod Dulyn a Phrifysgol Ulster),\u00a0Laura Crawford (Prifysgol Northumbria), Denise Hayward (Volunteer Now), Eddy Hogg (Prifysgol Caint),\u00a0Joanna Stuart\u00a0(NCVO),\u00a0Rhys Dafydd Jones (Prifysgol Aberystwyth), Matthew Linning (Volunteer Scotland), Sally Rees (CGGC), Alasdair Rutherford (Prifysgol Stirling) ac Ewen Speed (Prifysgol Essex). I gael rhagor o wybodaeth am ein t\u00eem craidd, <a href=\"https:\/\/www.mvain4.uk\/the-teams\/\"><strong>cliciwch yma<\/strong><\/a>.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify\">Mae\u2019r t\u00eem yn cael ei gynorthwyo gan Chris Martin o TeamKinetic,\u00a0Belen Satorre o BeCollective a\u00a0\u00a0Rahel\u00a0Spath\u00a0o SocStats.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: justify\"><strong>Panel Cynghori\u2019r Prosiect <\/strong><\/h2>\n<p style=\"text-align: justify\">Mae\u2019r t\u00eem craidd yn cael ei gefnogi gan banel cynghori o blith Partneriaid y Prosiect (sy&#8217;n cynnwys rhwydweithiau proffesiynol, sefydliadau a buddsoddiadau perthynol yr ESRC). Mae aelodau&#8217;r panel yn cynnwys:<\/p>\n<p style=\"text-align: justify\">Dr Georgina Brewis (UCL); Yr Athro Paul Chaney (WISERD); Sally Dyson (Cymdeithas Genedlaethol Rheolwyr Gwasanaethau Gwirfoddol); Dr Angela Ellis Paine (TSRC a Rhwydwaith Astudiaethau&#8217;r Sector Gwirfoddol); Sarah Latto (Fforwm Gwirfoddoli&#8217;r Alban); Ruth Leonard (Cymdeithas Rheolwyr Gwirfoddolwyr);\u00a0Dr Sarah Mills (Prifysgol Loughborough); Wendy Osborne (Cymdeithas Ryngwladol Ymdrechion Gwirfoddolwyr); Colin Rochester (Cymdeithas Hanes Gweithredu Gwirfoddol); Allison Smith (Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol); Ian Stevenson (Cyngor Gateshead);\u00a0Claire Thomas (Sefydliad Bevan); Chris Wade (Rhwydwaith yr Asiantaethau Cenedlaethol sy&#8217;n Cynnwys Gwirfoddolwyr);\u00a0a Paul Wilson (Volunteer Edinburgh). Cadeirydd Panel Cynghori Partneriaid y Prosiect yw\u2019r Farwnes Scott o Needham Market.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), fel rhan o ymateb cyflym Ymchwil ac Arloesi yn y DU i COVID-19 Cyflwyniad i&#8217;r Prosiect Ledled y Deyrnas Unedig mae\u2019r pandemig COVID-19 wedi gweddnewid tirwedd &#8216;gweithredu gwirfoddol&#8217;. Mae&#8217;r prosiect hwn yn adolygu, yn dadansoddi ac yn gwerthuso&#8217;r ymatebion gwirfoddol i\u2019r argyfwng a gefnogwyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-project.php","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":146,"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/17\/revisions\/146"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.mvain4.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}