Skip to content

Gofod 3: Symud gweithredu gwirfoddol yn y DU yn ystod COVID-19

Wales     June 16 2021     

Section Image
Image by WCVA

Gofod 3: Symud gweithredu gwirfoddol yn y DU yn ystod COVID-19

Briff Canol Prosiect, 28 Meh 2021, 12:30

Mae CGGC yn eich gwahodd chi i’r briff canol prosiect ar gyfer prosiect ymchwil ‘Mobilising UK Voluntary Action’, a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), fel rhan o ymateb cyflym ‘Research and Innovation UK’ i COVID-19. Bydd y panel yn rhoi trosolwg o gynnydd y prosiect ledled pedair gwlad y DU, ac yn edrych ar sut mae polisi wedi dylanwadu ar weithredu gwirfoddol yn ystod y pandemig. Dilynir hyn gan sesiwn holi ac ateb. Gallwch helpu Tîm Cymru drwy roi enghreifftiau o arferion da mewn gweithredu gwirfoddol o ran cynorthwyo cymunedau ac unigolion mewn adegau o argyfwng.

Y panel:

  • Dr Sally Rees, arweinydd sector gwirfoddol Cymru a Hwylusydd Gofal Iechyd a Chymdeithasol, CGGC (aelod staff CGGC)
  • Yr Athro Irene Hardill, Prif ymchwilydd, Athro Polisi Cyhoeddus, Prifysgol Northumbria
  • Dr Laura Crawford, Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Northumbria
  • Rhys Dafydd Jones, arweinydd academaidd Cymru, daearyddwr gymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Yr Athro Paul Chaney, (Aelod pwyllgor ymgynghorol: Cymru) Athro Polisi a Gwleidyddiaeth, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro Ewen Speed, Athro Cymdeithaseg Feddygol, Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Essex (Cyflwyniad fidio o ddadansoddiad polisi)

Dilynwch y ddolen i gofrestru: Mobilising UK voluntary action during Covid-19: mid project briefing – gofod3

Os ydych yn Awdurdod Lleol, Yn Fwrdd Iechyd, yn Gyngor Gwirfoddol Sirol neu’n sefydliad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yng Nghymru, llenwch yr arolwg hwn dolen holiadur Cymru i’n helpu i ddeall effeithiau Covid ar wirfoddoli.

Bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil yn cael eu rhannu drwy wefan y prosiect yn ystod Mehefin/Gorffennaf 2021.  Diolch am gymryd rhan yn yr astudiaeth bwysig hon. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymchwil, cysylltwch â: laura2.crawford@northumbria.ac.uk

Diolch yn fawr a dymuniadau gorau

Sally, Rhys a James

Tîm Cymru

Also In News