Skip to content

Y Timau

Section Image
Image by Anna Earl, Unsplash

Irene Hardill

PRIF YMCHWILYDD, DU

Irene Hardill

PRIF YMCHWILYDD, DU

Mae Irene Hardill yn Athro Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Northumbria. Dros y blynyddoedd mae ei hymchwil wedi edrych ar fyd gwaith sy'n newid a hynny drwy'r ystyron niferus sydd i waith, am dâl ac yn ddi-dâl yn y cartref ac yn y gymuned. Mae Irene wedi ymrwymo ers tro byd i ddulliau ffeministaidd, yn enwedig o safbwynt cwrs bywyd. Mae ei hymchwil yn gyfranogol; mae wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu gwybodaeth. Mae ymchwil gyfredol Irene yn cael ei chefnogi gan un o brosiectau’r ESRC, Disgyrsiau Gweithredu Gwirfoddol ar ddwy 'Adeg Drawsnewidiol' yn y Wladwriaeth Les, sef y 1940au a'r 2010au (DA/N018249/1) sydd bron â chael ei gwblhau, a phrosiect seilwaith gan yr Academi Brydeinig o dan arweiniad y Dr Georgina Brewis ar Ddigideiddio Archifau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol. Mae'n aelod o Banel Comisiynu COVID-19 yr ESRC, Grŵp Cynghori Ymchwil yr NCVO ac yn Gymrawd i Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Laura Crawford

UWCH GYMRAWD YMCHWIL, DU

Laura Crawford

UWCH GYMRAWD YMCHWIL, DU

Mae’r Dr Laura Crawford yn Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Northumbria. Cwblhaodd ei PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Loughborough ym mis Tachwedd 2019. Edrychodd ei thesis ar ddaearyddiaethau anabledd, cartref a gofal Cartref Cheshire Le Court, 1948-1975. Mae Laura wedi ymrwymo i ddulliau ymchwil cynhwysol ac mae ganddi ddiddordeb mewn profiadau o ofal ar draws gwahanol raddfeydd gofodol a chyd-destunau hanesyddol. Laura sy’n goruchwylio'r holl weithgareddau casglu data ac allbynnau'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys cydlynu cyfarfodydd prosiect, cyfosod a dadansoddi data ac ymgysylltu â phartneriaid y prosiect.

Sally Rees

Sally Rees

Arweinydd sector gwirfoddol , Cymru

Sally Rees

Arweinydd sector gwirfoddol , Cymru

Visit Website

Ail-hyfforddodd Sally, dylunydd ac ymgynghorydd tecstilau cynt, yn sgìl cael dau fab gyda chyflwr Sbectrwm Awtistig. Mae ganddi brofiad o weithio ar draws y sectorau trydyddol a gwirfoddol, gyda phwyslais ar iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, a rôl y sector trydyddol mewn cefnogi a chyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru. Mae ganddi gefndir mewn iechyd ac anableddau plant, yn enwedig wrth drawsnewid i fod yn oedolion, pennu cymdeithasol, gwerth cymdeithasol iechyd ac ymyriadau gofal cymdeithasol, a rôl asedau cymunedol mewn cefnogi llesiant unigol a chymunedol. Mae gan Sally hefyd profiad, gwybodaeth, ac arbenigedd o weithio rhyng-sector a dulliau ymchwil realaidd.

Ar hyn o bryd hi yw Hwylusydd Gofal Iechyd a Chymdeithasol Cenedlaethol y Drydydd Sector, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac yn hyfforddwraig bersonol gymwysedig ac yn arbenigydd atgyfeirio ymarfer corff.

James Lundie

TÎM CYMRU, Cymru

James Lundie

TÎM CYMRU, Cymru

Mae James Lundie yn Swyddog Ymchwil yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn ogystal â gweithio ar eu Tîm Grantiau. Ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer MSc mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thlodi mewn cyd-destun datganoledig. Cyn hynny, bu James yn gweithio i’r Gwasanaeth Cymorth Cymunedau yn Gyntaf yn CGGC, gan gefnogi'r gweithlu datblygu cymunedol, cyn ymgymryd â rolau datblygu cymunedol ac ymgysylltu mewn dwy gymdeithas dai yng Nghaerdydd. Mae James wedi bod yn ymwneud yn helaeth â gweithredu Grantiau Argyfwng ac Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru i gefnogi'r sector yn ystod argyfwng COVID-19 yn ogystal â gweithio i ddarparu cynlluniau grant eraill a weinyddir gan CGGC.

Rhys Dafydd Jones

Arweinydd academaidd , Cymru

Rhys Dafydd Jones

Arweinydd academaidd , Cymru

Visit Website

Daearyddwr cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Rhys Dafydd Jones. Mae ei waith ymchwil yn ymwneud â mudo, crefydd, a chyfranogiad. Arweiniodd becyn gwaith yn archwilio ‘Ymfudwyr a lleiafrifoedd mewn cymdeithas sifil’ fel rhan o ganolfan ymchwil yr ESRC, WISERD Civil Society. Ar hyn o bryd mae ynghlwm gyda’r ganolfan ar ei newydd wedd, WISERD Civil Stratification and Repair, lle mae’n gweithio ar fobileiddio cymdeithas sifil o amgylch ffiniau a mudo, ac at wrthdaro poblyddol a phegynnu cymdeithasol, gan archwilio sut gall gymdeithas sifil gymedroli polareiddio. Bu hefyd yn gweithio ar raglen IMAJINE Horizon2020, gan ystyried pam bod pobl yn symud i ac yn aros yng ngorllewin Cymru. Mae’n gefnogwr brwd o dîm rygbi Scarlets Llanelli.